top of page
Pencarneddi2.jpg

Capel Pencarneddi

TÅ· annedd ym mhlwyf Penmynydd oedd Pencarneddi ar un amser. Yn  y tÅ· hwn y dechreuodd achos y Bedyddwyr   yn 1785, a chredir i’r frawdoliaeth fod yn addoli ynddo am gyfnod o ryw chwe mlynedd.

 

Yn 1791, cyflwynwyd y tÅ· i’r Bedyddwyr gan John Williams, Y Garnen Wen, a chyda’r tÅ·, ddarn helaeth o dir ar gyfer mynwent.  Tua’r adeg yma, aethpwyd ati i dynnu i lawr ei furiau, a chodi capel ar ei sylfeini.

 

Yn 1869, yng Nghymanfa Caergybi, rhoddwyd caniatad i godi capel newydd. Adeiladwyd hwn drachefn yn yr un lle yn hollol â’i flaenorydd, ac ar y tir y safai’r annedd-dy gwreiddiol arno.

 

  Yn 1880 ymunodd Pencarneddi ag eglwys y Gaerwen (a sefydlwyd yn 1851) i alw gweinidog arnynt, ac ordeinwyd E. Evans, a oedd yn fyfyriwr yn Athrofa Llangollen.

 

 Adeiladwyd y capel presennol yn 1929 yn adeilad newydd hollol, yn 1952 rhoddwyd goleuni trydan ynddo.

 

Ar ôl hynnu, defnyddwyd yr hen gapel fel festri eang, a fe'i defnyddiwyd ar gyfer ymarferion canu ac adrodd ar gyfer eisteddfodau lleol. Fe'i defnyddiwyd hefyd ar gyfer cyngherddau, darlithiau ac wrth gwrs  partiau Nadolig.

 

Ond, roedd yn bosib i'r festri gael ei ail-ddefnyddio  fel capel pan oedd gofyn. Sawl gwaith yn ystod y blynyddoedd, 'roedd angen ail drwsio neu ail-beintio'r capel newydd, a pryd hynnu, roedd y festri unwaith eto yn cael ei ddefnyddio fel addoldy urddasol.

bottom of page