HANES STAR
Llun o Groeslon Star yng nghanol y 1960au
Croeso i wefan hanes pentre Star.
Pentre bychan yw Star, ym mhlwyf Penmynydd, Sir Fôn.
Mae'r pentre wedi ei leoli filltir i'r gorllewin o Llanfairpwllgwyngyll a tua dwy filltir i'r dwyrain o Gaerwen.
Daw enw'r pentre o enw tafarn - y "Star Inn" a arferai sefyll yn chwarter olaf y ddeunawfed ganrif, ar y groesffordd (y tŷ gwyn yn y llun uchod). Caewyd y dafarn ar ôl ymgyrch gan bobol leol a dirwestwyr, tua 1890. Yn hwyrach, "Cartref" oedd enw'r ty, ac yn y 1920s agorodd Garej Groeslon Star yma. Chwalwyd y tŷ pan ail adeiladwyd y garej tua 1967, ond caeodd yn y 1990s cynnar. Mae'r adeilad hwnnw yn dal yn sefyll, fel siop gwerthu double glazing.
Bwriedir ymhen amser lwytho pob math o hanes i'r wefan, gan gynnwys cofnodion Cyfrifiadau o 1841 hyd at y diweddaraf i gael ei gyhoeddi, sef Cyfrifiad 1911.
Cyfrifiadau o 1841 hyd at 1911 / Censuses 1841 - 1911
Rhestrau Etholwyr Absennol 1918 - 1921
Dolennau Defnyddiol / Useful Links